Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol |
Lleoliad: |
Ystafell Gynhadledd C - Tŷ Hywel |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Mercher, 30 Ebrill 2014 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09.16 - 12.23 |
|
|||
|
|
||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: Preifat |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
David Rees AC (Cadeirydd) Leighton Andrews AC Rebecca Evans AC Janet Finch-Saunders AC Elin Jones AC Darren Millar AC Lynne Neagle AC Gwyn R Price AC Lindsay Whittle AC Kirsty Williams AC |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Llinos Madeley (Clerc) Helen Finlayson (Ail Clerc) Sarah Sargent (Dirprwy Glerc) Victoria Paris (Ymchwilydd) |
|||
|
|
||||
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
1.1 Ni chafwyd ymddiheuriadau.
2 Ymchwiliad i argaeledd gwasanaethau bariatrig: ystyried yr adroddiad drafft
2.1 Bu'r Pwyllgor yn trafod yr adroddiad drafft ar yr ymchwiliad i argaeledd gwasanaethau bariatrig. Cytunwyd yr adroddiad yn amodol ar fân newidiadau.
3 Ystyried blaenraglen waith y Pwyllgor ar gyfer tymor yr hydref 2014
3.1 Trafododd y Pwyllgor ei flaenraglen waith ar gyfer tymor yr hydref 2014 a gofynnodd am bapurau cwmpasu ar ddetholiad o bynciau i'w hystyried mewn cyfarfod yn y dyfodol.
3.2 Cytunodd y Pwyllgor i ohirio'r sesiwn dystiolaeth lafar ar ei ymchwiliad dilynol i'r cyfraniad a wneir gan fferyllfeydd cymunedol i wasanaethau iechyd gyda'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol tan dymor yr hydref; ni chytunwyd ar ddyddiad eto.
4 Rhaglen Datblygiad Proffesiynol: Gwaith Craffu Ariannol
4.1 Fe wnaeth yr Aelodau gymryd rhan mewn sesiwn ar graffu ariannol yn ystod y flwyddyn ac ar ddiwedd y flwyddyn, fel rhan o'r Rhaglen Datblygiad Proffesiynol.
5 Papurau i’w nodi
5.1 Nododd y Pwyllgor gofnodion y cyfarfod blaenorol.